Diwylliant Bicer Gloch

Bicer Gloch

Diwylliant archaeolegol yng nghanolbarth a gorllewin Ewrop yn dyddio o'r cyfnod Chalcolithig hyd Oes Gynnar yr Efydd oedd y diwylliant Bicer Gloch (Saesneg: Bell-Beaker Culture, Almaeneg: Glockenbecherkultur; tua 2800 - 1800 CC.)[1][2] Mae'n arfer cyfeirio at y bobl a gysylltir â'r diwylliant hwn fel y Bicerwyr.[3]

Bathwyd y term gan John Abercromby, oherwydd y llestr yfed unigryw sy'n gyffredin ac yn nodweddiadol o'r diwylliant hwn.

  1. Bradley 2007, t. 144.
  2. Cunliffe, Barry (2010). Celtic from the West Chapter 1: Celticization from the West: The Contribution of Archaeology. Oxbow Books, Rhydychen, UK. tt. 27–31. ISBN 978-1-84217-410-4.
  3. Frances Lynch, 'Cefndir haneyddol y Byd Celtaidd', yn Y Gwareiddiad Celtaidd, gol. Geraint Bowen (Gwasg Prifysgol Cymru, 1987).

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search